Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 11 Mehefin a dydd Mercher 12 Mehefin 2013

Dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Mercher 19 Mehefin 2013

Dydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Mercher 26 Mehefin 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 11 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch (45 munud)

·         Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 (15 munud)

·         Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 (15 munud)

·         Dadl: Y frech goch a phwysigrwydd rhaglenni brechu (60 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl Fer - Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr (30 munud) – gohiriwyd o 8 Mai 2013

 

Dydd Mercher 12 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygu Strwythurau Addysg (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad Annibynnol ar y Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf (30 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)

“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47.”

 

Dydd Mercher 19 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 25 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Anghenion Dysgu Ychwanegol (30 munud)

·         Dadl: Y Papur Gwyn ar Dai – Y Diweddaraf ar ei Weithredu (60 munud)

·         Dadl: Gofal Sylfaenol a Chyfraith Gofal Gwrthgyfartal (60 munud)

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad 03-13 y Pwyllgor Safonau i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)